Cyfrifiadur ar ddesg mewn llyfrgell

Croeso

Rhestr o e-adnoddau, y gwasanaeth Mynediad Galw Heibio at Adnoddau Electronig
(Ffeil ar ffurf PDF; yn lawrlwytho neu'n agor mewn tab porwr newydd)

Mae’r gwasanaeth hwn yn rhoi mynediad i'r cyhoedd at lawer o adnoddau y mae'r Brifysgol wedi tanysgrifio iddyn nhw, lle mae ein trwyddedau’n caniatáu’r math hwn o fynediad.

  • Diweddarwyd: cafodd y rhestr o e-adnoddau ei gwirio er cywirdeb a’i diweddaru ar 8 Mai 2024.
  • Oddi ar y Campws: gallwch chi gyrchu'r rhestr hon oddi ar y campws. Pan fyddwch chi’n clicio ar ddolen fyw (mewn glas ar y rhestr), cewch eich tywys i wefan darparwr yr adnodd. Byddwch chi’n gallu gweld rhywfaint o gynnwys, ond nid yr hyn rydyn ni wedi tanysgrifio iddo. Dim ond pan fyddwch chi ar y campws y bydd modd gweld a darllen yr hyn rydyn ni wedi tanysgrifio iddo.
  • Ar y Campws: mae'r gwasanaeth hwn ar gael mewn pum llyfrgell: Y Celfyddydau ac Astudiaethau Cymdeithasol, Bute, Iechyd, Gwyddoniaeth, a Trevithick (cliciwch ar y dolenni i weld eu lleoliad a'u horiau agor).
  • Darllen yn Unig: ar y campws, byddwch chi’n gallu gweld a darllen y cynnwys rydyn ni wedi tanysgrifio iddo. Yn anffodus, ni fyddwch chi’n gallu arbed, lawrlwytho nac argraffu’r cynnwys hwn.
I gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth hwn, gan gynnwys sut i gofrestru ar ei gyfer, ewch i’r dudalen Mynediad Galw Heibio at Adnoddau Electronig - Llyfrgelloedd - Prifysgol Caerdydd